Help i Fenywod
Mae Cymru Ddiogelach yn darparu gwasanaeth premiwm i fenywod sy’n destun cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ardal Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth er mwyn cynyddu diogelwch a iechyd mewn perthynas â thrais yn y cartref a thrais rhywiol.
Mae tîm Cymru Ddiogelach yn Ymgynghorwyr ISDVA (Ymgynghorwyr Annibynnol Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol) profiadol sydd wedi’u cymhwyso’n llawn. Rydyn ni’n gweithio’n agos ag asiantaethau statudol a gwirfoddol, gan gynnwys asiantaethau cyffuriau ac alcohol, adran dai Cyngor Dinas Caerdydd, cymdeithasau tai, y Ganolfan Atgyfeirio Camdriniaeth Rywiol (SARC), gwasanaethau addysg a phlant a gwasanaethau iechyd.
Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch ein taflen am yr Uned Diogelwch Menywod.
A ydych chi mewn perygl o gam-drin domestig?
A yw eich partner erioed wedi:
Ymddwyn mewn ffordd eiddigeddus / sy’n dangos rheolaeth drosoch?
Dweud neu wneud unrhyw beth o natur rywiol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu sydd wedi’ch brifo?
Eich brifo’n gorfforol?
Eich bygwth, eich tanseilio neu’ch gwneud i deimlo’n fach?
A ydych chi’n meddwl:
Bod y cam-drin yn mynd yn waeth neu’n amlach?
Bod y cam-drin yn effeithio ar eich plant neu’n eu niweidio?
Y gallai eich partner eich lladd?
Eich bod am ymadael â’ch partner ond mae ofn arnoch wneud hyn?
Bod rhywun yn eich stelcian?
Ffoniwch ni ar 029 2022 0033.
Nodwch fod staff yn ein swyddfeydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9am–5pm
Am gymorth 24-awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Oft ar 0808 80 10 800
MEWN ARGYFWNG PEIDIWCH AG OEDI – FFONIWCH 999
Help i Ddynion
Mae gan bob dyn yr hawl i deimlo’n ddiogel.
Mae cam-drin domestig yn ymwneud â grym a rheolaeth un person dros rywun arall, a gall ddigwydd i unrhyw un. Mae ein Prosiect Dyn yn darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a dynion traws sy’n destun cam-drin gan bartner.
Rydyn ni’n darparu cymorth cyfrinachol a help i ddynion sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig i ddod o hyd i’r gwasanaethau gorau sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio diogelwch, cyfeirio at wasanaethau ar draws Cymru, cyngor a chymorth emosiynol.
A ydych chi mewn perygl?
A yw eich partner erioed wedi:
Ceisio eich rheoli chi?
Eich brawychu?
Gweiddi arnoch chi?
Bygwth eich anafu neu’ch lladd chi?
Cadw arian wrthoch chi?
Bygwth mynd â’ch plant wrthoch chi?
Galw enwau sarhaus neu ymosodol arnoch chi?
Ceisio rheoli eich symudiadau?
Eich atal rhag cysylltu â theulu a ffrindiau?
Os ydych chi erioed wedi wynebu unrhyw driniaeth fel hyn gan eich partner, mae’n bosibl eich bod yn destun rhyw fath o gam-drin domestig.
Gallwch gael help nawr
Ffoniwch Linell Gymorth Dyn am gymorth a chyngor ar 0808 80 10 321 (ar agor dydd Llun a dydd Mawrth 10am–4pm a dydd Mercher 10am – 1pm)
Am gymorth 24-awr, ffoniwch Linell Gymorth am ddim Byw Heb Ofn a 0808 80 10 800
MEWN ARGYFWNG PEIDIWCH AG OEDI – FFONIWCH 999